Gwisg Ysgol

Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi ein partneriaeth newydd gyda chwmni Genesis, yma yn Nhywyn, fydd yn darparu ein gwisg ysgol o hyn ymlaen. Mae’r cwmni erbyn hyn yn cael ei redeg gan y gweithwyr eu hun ac mae ei gwaith ac ymdrech i gydweithio gyda ni a’r gymuned yn un clodwiw iawn – heb sôn am allu cynnig prisiau llawer îs na’r cyflenwr gorffennol. Pob lwc ar gyfer y dyfodol a rydym yn gyffrous iawn o allu cefnogi a chydweithio gyda cwmni lleol.  

Er mwyn archebu gwisg Ysgol Newydd, bydd angen archebu’r hyn rydych eisiau erbyn y 3ydd o bob mis a bydd Genesis yn cludo’r archebion i’r Ysgol, lle byddwn yn ei basio i’ch plentyn i ddod adref.

Eitem

Pris

Crys chwys

£9.82 

Cardigan

£12.20 

Crys polo

£8.97 

Fflîs ysgol

£13.85 

Côt law

£26.47 

Cit Addysg Gorfforol

£16.30 

Crys t Addysg Gorfforol

£3.99 

Trwsus byr Addysg Gorfforol

£6.99 

Bag Addysg Gorfforol

£5.32