Ffrindiau Ysgol Penybryn Tywyn
Grŵp o bobl yw’r Ffrindiau sydd yn cydweithio er mwyn cynnal digwyddiadau i gyfoethogi profiadau a chyfleoedd i blant a theuluoedd yr Ysgol. Maent yn cwrdd yn fisol yn Eglwys y Bedyddwyr, Tywyn ac mae croeso i bawb ymuno a chynnig helpu mewn unrhyw ffordd posib. Anelir y ffrindiau i gynnal oleiaf 1 digwyddiad amrywiol y tymor.
Am fwy o newyddion a gwybodaeth gan y Ffrindiau, ymunwch yn y grŵp Facebook ‘Ffrindiau Ysgol Penybryn Tywyn Friends’.