Addysg – Asesu a Cynnydd

Rwy’n siwr eich bod yn ymwybodol ein bod yng Nghymru yn dilyn Cwricwlwm Newydd ers Medi 2022 sef y Cwricwlwm i Gymru. Fel rhan o’r newid yma, mae newid mewn sut rydym yn rhannu gwybodaeth gyda chi am ddatblygiad eich plentyn tra yn Ysgol Penybryn. Byddwn yn adrodd ar gynnydd dysgwyr, gan gynnwys:

  • eu llesiant
  • gwybodaeth am gynnydd a dysgu allweddol
  • anghenion cynnydd allweddol, y camau nesaf i gefnogi eu cynnydd, a chyngor ar sut y gallwch chi fel rhieni gefnogi’r cynnydd hwnnw.

Gweler bod pwyslais mawr ar gynnydd yn hytrach na chyrhaeddiad sydd yn galluogi i ni fel ysgol ganolbwyntio ar yr hyn sydd yn hollbwysig i’r dysgwr unigol yn hytrach na cheisio cyrraedd targed cyffredin ar gyfer pob dysgwr.

 

Dyma sut rydym ni’n dehongli cynnydd:

  • Cynnydd – datblygiad mewn sgiliau, dysgu, gwybodaeth neu ddealltwriaeth ar gam dysgu addas ar gyfer y dysgwr.
  • Oes cynnydd (symud dysgu ymlaen / gwelliant / cryfhâd) wedi bod?
  • Asesu parhaus er mwyn monitro cynnydd.
  • Darpariaeth dydd i ddydd yn cael ei gynllunio ar gyfer anghenion y dysgwr er mwyn sicrhau’r cynnydd mwyaf posib ar gyfer y dysgwr unigol.
  • Nid oes modd cymharu cynnydd 2 ddysgwr gan ei fod yn unigryw i ddysgwr unigol.

Byddwch yn derbyn adroddiad cynnydd yn dymhorol a byddwn yn defnyddio’r côd lliwiau isod:

Byddwch yn derbyn adroddiad cynnydd yn dymhorol a byddwn yn defnyddio’r côd lliwiau isod:

Pryder am gynnydd eich plentyn Mae eich plentyn wedi gwneud ychydig o gynnydd.
Cynnydd disgwyliedig ar gyfer eich plentyn Mae eich plentyn wedi gwneud cynnydd addas.
Cynnydd uwch na’r disgwyl ar gyfer eich plentyn Mae eich plentyn wedi gwneud cynnydd uwch na’r disgwyl.
Cynnydd eithriadol ar gyfer eich plentyn Mae eich plentyn wedi gwneud cynnydd sydd ymhell na’r disgwyl – eithriadol iawn.

 

Ar gyfer presenoldeb, byddwn yn defnyddio’r côd lliwiau isod:

Colli dros fis o ysgol <90%
Colli i fyny at mis o ysgol 90% – 92%
I fyny at darged ysgol 92.1% – 94.9%
Uwch na tharged ysgol 95% – 97.9%
Da / Nodedig / Perffaith 98% – 100%

Gobeithio y byddwch yn gwerthfawrogi ein dull newydd o gyfathrebu cynnydd eich plentyn a byddwn yn gwahodd unrhyw adborth er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus.