Clybiau
Yn Ysgol Penybryn , ein bwriad yw sicrhau bod ein plant yn weithgar ymhob agwedd o’u haddysg. Ein gweledigaeth yw eu hyfforddi mewn sgiliau sylfaenol fydd yn eu harwain drwy eu bywydau haddysgol ac i’r dyfodol.
Rhan annatod o fywyd ysgol ydy’r clybiau a gynigiwn yma:

Urdd
Aelodaeth yr Urdd
Bydd Clwb yr Urdd yn cyfarfod ar nos Iau ar y dyddiadau canlynol yn ystod Tymor yr Hydref – 3.20yh tan 4.15yh.
Mae ymuno a’r Urdd yn rhoi cyfle i’ch plentyn fynychu Clwb yr Urdd, cymryd rhan mewn cystadlaethau chwaraeon, eisteddfod, celf a chrefft, mynychu penwythnos Glanllyn a mwy.
Mae croeso i’r plant iau ymuno a’r Urdd er mwyn cystadlu yn yr eisteddfod a mynychu Clwb Cyw.
Cysylltwch a’r swyddfa er mwyn cael manylion ar sut i ymaelodi.
2020 Dyddiadau Clwb yr Urdd
- 16/01/20
- 30/01/20
- 13/02/20
- Hanner Tymor
- 27/02/20
- 12/03/20
- 26/03/20
Cyw
Dosbarthiau 1 a 2 Clwb Cyw
Clwb Hwyl yr Urdd
Cyfle i wneud gweithgareddau a siarad yn Gymraeg
-
23/01/2020
-
30/01/2020
-
6/02/2020
-
13/02/2020
Os hoffech i’ch plentyn ddod i’r clwb, galwch heibio’r swyddfa i lenwi ffurflen. Diolch yn fawr iawn.
Clwb Gwyrdd
Clwb Garddio/Gwyrdd B3, 4, 5 a 6
Rydym yn cynnal y Clwb Garddio/ Gwyrdd ar gyfer disgyblion CA2.
Gobeithiwn gwrdd bob pythefnos rhwng 3.20 a 4.15yp er mwyn gallu paratoi yr ardd yn barod at y gwanwyn a chynnal ychydig o weithgareddau gwyrdd e.e. adeiladu bocs adar a gwneud bwyd i adar yr ardd.
Os oes gan eich plentyn/ plant ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r Grŵp Gwyrdd ar ôl ysgol a fyddech chi cystal a chysylltu gyda’r swyddfa.
Perfformio
Clwb Perfformio
Dyddiadau ‘r Clwb Perfformio
Campau’r Ddraig
Clwb Chwaraeon y Ddraig B3, 4, 5 a 6
Rydym yn trefnu Clwb Chwaraeon ar ôl ysgol i ddisgyblion blwyddyn 3, 4, 5 a 6. Bydd y plant yn cael eu hyfforddi gan athrawon, cymorthyddion a gwirfoddolwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant priodol.
Pwrpas y clwb yw rhoi cyfle i’r plant gymryd rhan, yn hytrach na chystadlu yn unig, ym mhob agwedd o chwaraeon, gan gynnwys gymnasteg, rygbi a gemau ar y cae.
Bydd y Clwb yn cael ei gynnal yn Ysgol Penybryn ar Nos Fercher rhwng 3.20 a 4.15 yh. Rhieni fydd yn gyfrifol am gasglu eu plant o’r clwb. Rhaid i bob plentyn ymddwyn yn gall neu mi fyddwn yn eu gwahardd o’r Clwb.
Os ydych yn awyddus i’ch plentyn i gymryd rhan yn yr hyfforddiant, galwch heibio’r swyddfa i lenwi ffurflen.
Brecwast
Brecwast
Yn y clwb brecwast cynigiwn amrywiaeth o ffrwythau, grawnfwydydd, tôst a sudd ffrwyth yng ngofal staff gofalus a chymdeithasol.